Eglwys y bedyddwyr carmel baptist church pontlliw |
Myfyrdodau
(H.V. Watkins)
Gan y Parchg D. Islwyn Davies
|
Salm 103 (1-5)
Myfyrdod 4
Ar ddiwedd y myfyrdod blaenorol, fe sylwon ni fod Iesu Grist yn achub pechaduriaid ac yn gynyddol yn glanhau eu meddyliau, agweddau a’u chwantau. At hyn mae Dafydd yn ychwanegu dawn arall, “Ef sy’n gwaredu fy mywyd o’r pwll.” (Adnod 4) Pan fydda i’n darllen y geiriau yna, fe fydd hanes John Newton yn dod i’r cof. Fel y gwyddoch, fe fuodd e am flynyddoedd yn byw mewn pechod ac ynghlwm wrth y fusnes greulon o brynu a gwerthu caethweision. Yn ystod mordaith adre i Loegr fe ddaliwyd ei long mewn storm ddychrynllyd. Roedd Newton wedi arswydo wrth iddo weithio pwmp yn nhywyllwch crombil y llong am oriau ar eu hyd dros gyfnod o ddyddiau. Yn y tywyllwch, fe gofiodd adnod o’r Beibl oedd ei fam dduwiol wedi’i dysgu iddo flynyddoedd yn gynt yn ystod ei blentyndod. Yn y fan a’r lle, galwodd ar Dduw i’w achub. Ar ben ei hun yn nhywyllwch crombil y llong, cafodd ei achub. Roedd Duw wedi’i achub nid yn unig o berygl y storm ond hefyd o dywyllwch pwll ei fywyd pechadurus. Mae ei ddiolchgarwch i Dduw yn amlwg yn ei emyn adnabyddus, “Amazing grace - Rhyfedd ras” Mae maddeuant yn bardwn rhag euogrwydd pechod; iachâd yn lanhad rhag gallu pechod i lygru; prynedigaeth yn waredigaeth rhag y diflastod y mae pechod yn ein bwrw ni iddo. Pechod i rai yw caethiwed i ryw chwant arbennig; ffordd o fyw; camdriniaeth; erledigaeth; tostrwydd; balchder; trachwant; tymer ddrwg. Ar y llaw arall, gall pechod gymryd arno ffurf fwy cyfrwys a dichelgar. Sut bynnag y daw, y mae Duw yn ein gwaredu rhag y pyllau erchyll yma i gyd. Yna, mae Dafydd yn cyfeirio at bwll tywyll marwolaeth – y gelyn bydd rhaid i bawb ei wynebu. Ac eto, bydd Duw yn ein gwaredu o’r pwll hwnnw a’r bedd ac yn rhannu â ni fendithion atgyfodiad bendigedig y Crist. “Fy enaid, bendithia yr Arglwydd.” Mae Dafydd yn cysylltu hyn gyda bendith arall, caf meddai, “ fy nghoroni â chariad a thrugaredd.” (adnod 4) Ddim yn aml y byddwn ni’n meddwl am gael ein coroni. Y syniad ynghlwm â choroni yw cyflwyno urddas ac anrhydedd i rywun. Llawer gwell na’r aur sy’n coroni brenhinoedd daearol yw’r cariad a’r trugaredd mae Duw yn eu cyflwyno i ni. Mae cariad a thrugaredd Duw fel gemau drud sy’n disgleirio’n fwy llachar na diemwntau mewn ffrâm o aur pur. “Fy enaid, bendithia’r Arglwydd.”
Vincent Watkins.
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Gweler isod linc - 10 cyflwyniad Powerpoint llafar - tua ¼ awr yr un - o'r enw Pobl y Beibl ar rai o brif gymeriadau'r Beibl gan y Parchg Peter Harries Davies Dyma'r linc Cymraeg: https://www.youtube.com/watch?v=uKSdCodJNiA&t=1s
Below is a link to 10 Powerpoint presentations 15 mins long called “People of the Bible” by Revd Peter Harries Davies. English - https://www.youtube.com/watch?v=0dm5zHOFWW0&t=39s
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Cliciwch yma i ddarllen hanes y Parchedig D Islwyn Davies gan ei ffrind Desmond Davies
Gan y Parchg Irfon Roberts |
Diolch i chi am ymweld â’r safle, a gobeithio y cewch yma rhywbeth i ennyn eich diddordeb yn yr Arglwydd Iesu, Gwaredwr y byd. Os fyddwch yn bwrw heibio cewch yma groeso cynnes iawn.
|
Cysylltwch â ni : negeseuon@carmelpontlliw.co.uk
Parchg. H. Vincent Watkins 01792 771650 |
GOMER - 'Gweinidogaeth Doniau' y Parchg D. Islwyn Davies |