EBEN FARDD: Y Graig Ddissigl'

 

Dau gant a deg o flynyddoedd yn ôl, Awst 1802, ganed Ebenezer Thomas - Eben Fardd - ym mhlwyf Llanarmon, Caernarfon ond fel y 'bardd prudd o Glynnog Fawr' y cofir amdano.

I lawer ohonom, gapelwyr, y ddau beth sy’n taro tant ynom yw ei gerdd arwrol 'Dinystr Jerusalem’ a'i emyn “O fy Iesu bendigedig'. Ac y mae'r ddau yn wir gofiadwy. Bardd ifanc un ar hugain oed oedd pan enillodd yr awdl hon yn Eisteddfod Daleithiol Powys yn Y Trallwng yn 1824. Gan Flavius Josephus (39 - 100 O.C.) yr hanesydd Iddewig y cafodd hanes y gwarchae a ddigwyddodd yn 70 O.C. Josephus oedd cyfieithydd Titus, y Cadfridog a ymosododd ar Jerwsalem ac a ddaeth yn Ymerawdwr yn y flwyddyn 79 O.C. Mae Eben Fardd yn canu ar y dechrau am ysblander y ddinas cyn y gwarcae a'r harddwch a ffrwythlonder y wlad o'i chwmpas. Yna'r gwae a'r cyni cyfnod y gwarchae cyn symud at yr adfeilion truenus yn y rhan olaf. Y mae realaeth ei ddisgrifiadau dramatic yn creu arswyd yr achlysur:

Ys anwar filwyr sy yn rhyfela,

Enillant, taniant Gastell Antonia:

Y gampus Deml a gwympa - cyn pen hir;

Ac O! malurir gem o liw eira.

Wele drwy wyll belydr allan - fflamol

A si annaturiol ail sŵn taran:

Mirain Deml Moriah’n dân - try’n elw,

Trwst hon clyw acw’r trawstiau’n clecian!

Esboniad Eben Fardd am y dinistr a gwasgaru cannoedd o'r Iddewon oedd mai cosb Duw ydoedd am iddi groeshoelio Iesu:

Y grasol lesu a groeshoeliasant

Am hynny gofid miniawg a yfant,

 

Enillodd Eben Fardd ddwy gadair arall yn ystod ei yrfa Eisteddfodol, y naill ar y testun ‘Cystuddiau, Amynedd ac Adferiad Job' yn Lerpwl 1840 a 'Brwydr Maes Bosworth' yn Llangollen yn 1858. Siom fawr iddo oedd bod yn  aflwyddiannus yn Eisteddfod Rhuddlan 1850 ar y testun 'Yr Atgyfodiad'.

Ond, fel y dywed E. G. Millward "Nid yn ei ganu Eisteddfodol y clywir llais personal Eben Fardd ond yn rhai o'i emynau". Dau emyn o'i eiddo a gynhwysir yn Caneuon Ffydd a thri yn y Llawlyfr Moliant Newydd. Yr emyn a hepgorir yw hwnnw y  mae'r llinell “Sy’n gadarn i iachau” yn glo i bob llinell:

 

Os ydwyf wael fy llun a’m lliw

Os nad yw ’mriw’n gwellhau

Af at y Meddyg mawr ei fri

Sy’n gadarn i iachau.

Mae dewrder ei ffydd yn wyneb ei brofedigaethau yn parhau'n rhyfeddod. Rhwng 1855 ac 1861,  bu farw ei wraig Mary yn 52 oed, ei ddwy ferch, Catherine yn 21 oed, Elisabeth yn 19 oed, ei fab James yn 18 oed a hefyd wyr. Trwy'r helbulon oll tystia bod 'Crist yn graig ddi-sigl', sef ei deitl gwreiddiol i'r emyn ‘O fy Iesu bendigedig’  ac 'Yn gadarn i iachau'.

'Digonolrwydd Duw’ yw testun Eben Fardd yn yr emyn arall:

Mae gennyf ddigon yn y nef

ar gyfer f'eisiau i gyd:

oddi yno mae y tlawd a'r gwael

yn cael yn hael o hyd.

Dywed nodiadau'r 'Cydymaith Caneuon Ffydd' fod 10 pennill i'r emyn pan y’i cyhoeddwyd  yn 1861 Canu'n helaeth felly ar ei brofiad :

Y Duw a oes i’m nawdd o’r nen

mewn llawer bwlch a fu,

Efe yw’r Duw a ddeil fy mhen

Yn yr Iorddonen ddu.

Y mae tystiolaeth Eben Fardd yn dadlenni'n ddisglair y gwahaniaeth rhwng Cred (Credo, Lladin) a Ffydd y Testament Newydd ( Pistis, Groeg). Fe all Credoau'r oesau gofnodi datganiadau megis bod y Crist yn 'wir ddyn ac yn wir Dduw. Ond fel y dywed Epistol Iago (2:19), y mae cythreuliaid hefyd yn datgan am lesu mai 'Mab y Goruchaf’ a  'Sanct Duw’ ydyw ac ''yn crynu'. Y mae Ffydd y Testament Newydd yn anhraethol fwy. Mae'n golygu ymateb personal i Berson Crist, ymddiried ynddo ac ymgyflwyno iddo. Nid yn gymaint 'credu amdano' ond 'credu ynddo' - y 'digon Duw, ymhob cyfyngder' - y Ffydd gynhaliol ar sail dibyniaeth lwyr ar yr 'lesu bendigedig', Pan fydd y ffydd a’r ymddiriedaeth honno'n darganfod fod yr Arglwydd yn wir yn ffyddlon - dyna'r hyn y mae'r Efengyl yn ei olygu wrth y profiad 'iachawdwriaeth',

Yr hyn a weddai i emyn da, medd Eben Fardd, yw ‘symledd naturiol, yn hytrach na chywreinrwydd celfyddydol' Dyna'n union gyfrinach ei emynau:

O fy  Iesu bendigedig,

Unig gwmni f’enaid gwan,

Ymhob adfyd a thrallodion

Dal fy ysbryd llesg i’r lan;

A thra’m teflir yma ac acw

Ar anwadal donnau’r byd

Cymorth rho i ddal fy ngafael

Ynot ti, sy’r un o hyd.

 

'Anodd fyddai cael', meddai E.G. Milllward, 'gwell mynegiant o ffydd yng nghanol chwalfa nag a geir yn yr emyn tra phersonol hwn gan y bardd prudd o Glynnog Fawr'.

 

Pwyso ar Iesu, dyma gryfder

Sydd yn dal y pwysau i gyd.

D. Islwyn Davies.