GOMER - 'Gweinidogaeth Doniau'

Joseph Harris: 1773 - 1825.

Ymhlith y trysorau prin yn fy meddiant y mae llyfr poced bychan, pedair modfedd wrth ddwy a hanner a modfedd o drwch. Cyfrol o emynau ydyw a olygwyd gan Gomer ac a gyhoeddwyd ar Ebrill 1af. 1821; William Morgan Evans, Heol Awst, Caerfyrddin oedd yr argraffydd. Teitl y llyfr yw 'Casgliad o Hymnau o'r Awdwyr Goreu: yn cynnwys dros ddau cant a hanner o rai newyddion; yn ffurf Corff o Dduwinyddiaeth. Gan Joseph Harris, Abertawy.' Yr wythfed argraffiad yw'r gyfrol sydd gennyf. Hwn oedd Llyfr Emynau hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. A diau fel Gomer yr emynydd y cofir amdano heddiw. Ond un wedd yn unig ar ei yrfa oedd yr emynau. Tarddai ei holl weithgarwch o'i gysyniad am y Weinidogaeth. Ys dywedodd, 'hyfrydwch melysaf ei feddwl a llawenydd pennaf ei galon' oedd y weinidogaeth gyhoeddus. Anghofiedig bellach yw llawer o'i weithgarwch yn enw'r Weinidogaeth a thegwch yw nodi amrywiaeth ei gyfraniad.

Gweinidog yr Efengyl.

Yn y lle cyntaf a phennaf gweinidog yr Efengyl ydoedd ac amcan ei bregethu ydoedd 'hyfforddir deall a chyffroi'r serchiadau a chymhwyso'r genadwri'n ymarferol'. Ac yntau'n frodor o Lantyddewi, Sir Benfro, a'i fedyddio yn Llangloffan tua 1792/3, pregethai'n goeth yn y Gymraeg a hefyd yn Saesneg yn arbennig ar l treulio cyfnod o chwe mis yn gloywi'r iaith fain yn Athrofa'r Bedyddwyr ym Mryste. Bu'n cenhadu'n ddiarbed mewn cyfnod pan oedd Abertawe ar gynnydd fel porthladd ac yn ganolfan y diwydiant copr. Hefyd fel gweinidog eglwys yr Heol Gefn llwyddodd i gadw'r Cymry a'r Cymry di'Gymraeg gyda'i gilydd. Ar l ei farwolaeth yr aethant ar wahan - Mount Pleasant yr Eglwys Saesneg a Bethesda'r Gymraeg. Yn gyfochrog a'i bregethu oedd ei gefnogaeth frwd i'r Gymdeithas Genhadol a'r Genhadaeth i Lydaw a hefyd sefydlu Cymdeithas Genhadol Gymreig y Bedyddwyr fel y dywed T. M. Bassett 'i helpu helaethu'r efengyl yn India, Iwerddon a pharthau tywyll o Gymru ei hun'.

Y Diwinydd.

Cyfnod yr ymrysonau diwinyddol oedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a theimlai Gomer y rheidrwydd i sefyll yn gryf dros ei argyhoeddiadau Calfinaidd a bedydd credinwyr ac athrawiaeth y Drindod. Ei wrthdrawiad a'r Undodiaid a'i ysgogodd i gyhoeddi 'Bwyell Crist yng Nghoed Anghrist' yn 1804 a'r 'Traethawd ar Briodol Dduwdod lesu Grist', y fersiwn Saesneg yn 1816 a'r fersiwn Cymraeg y flwyddyn ddilynol. Dywedir bod y 'Traethawd' hwn wedi cael dylanwad mawr ac eang ymhlith Cristnogion yn gyffredinol gan gynnwys yr Esgob Burgess, Tyddewi. Amddiffyn egwyddorion y Bedyddwyr oedd ei fwriad wrth gyhoeddi 'Gair Duw yn erbyn Dychymyg Dyn' yn 1822. Nid oedd y cyhoeddiad hwn wrth fodd pawb ac er bod yr athrylithgar Lewis Edwards yn edmygu Gomer ar lawer cyfrif, ni allai goleddu'i ddaliadau enwadol. Yn y 'Traethodydd' 1845 sgrifennodd 'O ardderchocaf Gomer! Gwae erioed i'r dŵr gwyllt llifeiriog bwyso ar dy ymennydd disglair; yma, ac yma yn unig, y difwynwyd dy wisgoedd ac y syrthiodd dy goron!'

~

 

Y Dyngarwr.

 

Yr oedd Gomer yn effro i gymeriad gwael ei gymdeithas - meddwdod, puteinio, ariangarwch a thrachwant ac ymaflodd a hwy yn ddiflino. Ond nid beirniadu a chondemnio oedd ei unig bregeth. Meddai Glanmor Williams 'bu'n annog yn daer dros ledaenu'r ysbryd Cristnogol; dros ymddwyn yn addfwynach a thynerach wrth drin plant, merched, cyd-ddyn, ac anifeiliaid. Hyn oll, cofier, pan oedd y mwyafrif yn arfer yn ddifeddwl a digywilydd y dulliau mwyaf creulon a dilywodraeth wrth drin y gwan a diymadferth.'

 

Yn wahanol i fwyafrif ei gyfoeswyr yn yr Enwad a gytunai datganiad Bedyddwyr Mn yn 1817: 'It is not the province of Christians to debate and discuss politics but to behave humbly towards our superiors ......we do cordially hate the political leaven of Cobbett, Tom Paine and other anarchists'. Dylid wrth gwrs, gofio ofnau'r cyfnod y byddai terfysgoedd cyhoeddus yn y wlad ar batrwm y Chwyldro Ffrenig a'r rhyfel hefyd yn erbyn Ffrainc. Gŵr cymedrol ei wleidyddiaeth oedd Gomer ac ni fynnai ddymchwelyd y Llywodraeth ond yr oedd yn barod i amddiffyn yr hawl i brotestio yn heddychlon. Condemniodd Gyflafan Peterloo ym Manceinion yn 1819 pan ymosododd milwyr ar rali politicaidd heddychlon gan ladd un ar ddeg a niweidio pum cant. Meddai 'Y mae pob dafn o waed yn ein gwythiennau yn dadlau yn erbyn trefn marchfilwyr Manchester'. Ond yr oedd hyd yn oed syniadau cymedrol Gomer yn ormod i'w gyd-fedyddiwr Ben Jones (P. A. Mon) a oedd yn anfodlon ei fod wedi condemnio'r marchfilwyr gan ychwanegu mai llywodraeth Prydain oedd 'y rhagoraf dan y net'. Agwedd gyffren ei Enwad yn ddiau oedd 'gweddo dros heddwch y ddinas ac i fod yn ddioddefgar dan y lIywodraeth a pheidio ymyrryd hi'.

Y Golygydd.

Seren Gomer yw'r cylchgrawn olaf i ddiflannu yn yr Enwad a haneswyr bellach sy'n cofio am Gomer, y cyntaf i sefydlu cylchgrawn Cymraeg parhaol. Methiant a fu'r Seren Gomer wythnosol yn 1814 ond llwyddodd drachefn i'w gyhoeddi'n bythefnosol yn 1818 ac yna'n fisol. Yn ogystal ag ysgrifau ar bynciau diwinyddol, ysgrythurol a moesol, cynhywsai'r rhifynnau amrywiaeth eang o eitemau megis hanesion cyfoes yng Nghymru a thu hwnt, gweithgareddau cymdeithasol, achosion llys, marwolaethau a phriodasau, egluro geiriau a thonau emynau. Rhoddwyd sylw penodol i'r iaith Gymraeg a'i chymdeithasau a hefyd i'r Eisteddfod a chyflwynwyd tlws arian y Gwyneddigion i Gomer am ei ymdrechion. Y mae amrywiaeth y cynnwys yn dyst iddo etifeddu peth o eangfrydedd William Richards a Morgan John Rhys. Fe ddaeth cynnwys amrywiol Seren Gomer yn batrwm cylchgronau Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid amhriodol felly yw ymadrodd Daniel Ddu Ceredigion mai Gomer yw 'tad ein holl gyhoeddiadau Cymraeg'.

Yr Emynydd.

Bu farw unig fab Gomer, John Ryland (Ieuan Ddu) o'r darfodedigaeth yn 1824 a bu'r profiad yn brofiad garw i'w dad a phrysuro'i farwolaeth yntau yn 1825. Ond nid yn ei emynau y mynegodd ei hiraeth a'i ffydd ond mewn Cofiant a ddosbarthwyd i holl dderbynwyr Seren Gomer.

Yn ei gyflwyniad 'At y Darllenydd' yn y gyfrol'. Casgliad o Hymnau' 1821 mae Gomer yn mynegi beth yw pwrpas canu emyn, sef bod yn gyfrwng addysgu a hefyd lleisio mawl y gynulleidfa. Ei fwriad clir felly oedd llunio llyfr cyflawn o emynau ysgrythurol, mawl a gweddi ar gyfer oedfaon:

'Am fod yma Hymnau ar wahanol bynciau y grefydd Gristionogol, dichon amryw ohonynt gael eu cyfrif yn sychion, yn neilltuol gan rai na chyfrifant yr un ganiad yn felys oni bydd yn darlunio dyfnderau anobith, neu eithafoedd uchelderau Ilawenydd ysbrydol. Y mae yn y lIyfr hwn lawer iawn o'r Hymnau godidocaf perthynol i brofiad credadyn ..... Dichon pob Cristion cywir-galon ganu y rhai hyn agos oll, heb achos meddwl mai canu dros eraill y bydd efe ar y pryd.'

Llwyddodd Gomer yn ei fwriad. Emynau ysgrythurol, cynulleidfaol yw ei emynau gwreiddiol megis; 'Mi of at borth y ne!, (256. Y Llawlyfr Moliant Newydd); 'Cyduned y nefolaidd gr' (165 Caneuon Ffydd); '0 bob hyfrydwch nos a dydd' (171 .Ll.M.N.); 'Dewch gorfoleddwch b/ant y nef' (42. Ll.M.N.); 'Am air ein Duw rhown 'n holl fryd' (172 C Ff); 'O am deimlo cariad /Iesu' (733. CFf) a 'Llais mwyn y Bugail da, / A rydd im' hedd di-lyth; / 'does Delyn yn y nef all wneud / Peroriaeth gystal byth .. 1(5. Llawlyfr Moliant 1930).

Emynau ysgrythurol ar gyfer cynulleidfaoedd yw ei gyfieithiadau hefyd - tri ohonynt yn Caneuon Ffydd sef: 'Dewch bawb sy'n caru enw'r Den' (8); 'Dechreuwch weision Duw, / y gn ddiddarfod, ber' (162); 'Gras o'r fath beraidd sain' (161); a thri arall yn Y Llawlyfr Moliant Newydd sef: '0 Arglwydd, gwl dy was, / a phrawf fy nghalon i' (14); 0 ryfedd nerth y cadarn Ir' (86); '0 mor ddedwydd meibion Duw /sydd ,'u rhan mewn Prynwr byw' (413).

Gan gofio bod Gomer yn 'Galfin argyhoeddedig' ac iddo fyw yng nghyfnod y 'cynhenna diwinyddol', ond un emyn yn Y Llawlyfr Moliant Newydd syn gwrthdystio safbwynt yr Undodiaid ac yn datgan athrawiaeth y Drindod sef rhif 499: 'Molir Trindod byth mewn Undod / gan yr holl angylaidd tu' pennill a unir dau bennill Pantycelyn 'Dechrau canu, dechrau canmol' a 'Nid oes yno ddiwedd canu'.

Yn glo i'r gyfrol 'Casgliad o Hymnau' ceir dau emyn ar destun y genhadaeth i Lydaw, 'Prydain Fechan' ac yn yr emynau hyn mynega'n ddifloesg ei wrthwynebiad i athrawiaethau'r Pabyddion.

Cwyd y wawr ym Mhrydain Fechan,

Derfydd braw y purdan cas;

Derfydd talu am faddeuant

I offeiriaid Babel fras;

Lechydwriaeth

Y Parchg. D. Islwyn Davies