DIOLCH AM FYWYD A CHYFRANIAD Y PARCHEDIG DAVID ISLWYN DAVIES

 

Yn ymadawiad y Parchg. Islwyn Davies collwyd un a wnaeth gyfraniad tra sylweddol i fywyd eglwysi enwad y Bedyddwyr ac ir dystiolaeth Gristionogol yn gyffredinol yng Nghymru. Fei ganed ar 24 Mawrth 1927, yr hynaf o bedwar plentyn Coslett a Morfydd Davies, Pont-lliw, teulu oedd pharch mawr ir pethe, ac eglwys Carmel yn gartref ysbrydol iddynt. Yno, o dan weinidogaeth y Parchgn. Emlyn Caradog Roberts a Rhydwen Williams, y cafodd Islwyn ei feithrin yn y Ffydd, ac nid anghofiodd fyth y graig y naddwyd ef ohoni. Derbyniodd ei addysg gynnar yn ysgol y pentref ac yn Ysgol Ramadeg Tre-gyr. Yna, yn unol gofynion gwasanaeth milwrol cenedlaethol (fel yr oedd ar y pryd), treuliodd dair blynedd yn y llynges. Er ei bod yn anodd dychmygu cymeriad mor heddychlon ag Islwyn yn lifrair llynges, ni bur profiad yn ofer. Yn un peth, fei penodwyd yn ysgrifennydd i gapten y llong yr hwyliai arni, gwaith a fyddain troin elw iddo yn nes ymlaen. Yn bwysicach na hynny, yn l tystiolaeth Rhydwen (ac ni fyddai Islwyn yn l mewn cydnabod ei werthfawrogiad or hyn a glywsai o enau Rhydwen ym mhulpud Carmel), daeth adref, yn groes i brofiad llawer o fechgyn y cyfnod, i ffydd wedi ei chadarnhau. Erbyn hyn yr oedd y seiliaun sicr.

 

ADDYSG

Yn 1948 dechreuodd ar ei yrfa fel myfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Abertawe, gan brofi ei allu academaidd diamheuol trwy ennill iddoi hun radd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg. Gwahoddwyd ef gan yr Athro Henry Lewis i ymuno staff yr adran, ond gwrthod a wnaeth gan fod ei fryd ar waith y weinidogaeth. Derbyniodd ei hyfforddiant diwinyddol yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin, ac yna yn 1966 (ac y maen bwysig nodi na pheidiodd Islwyn bod yn fyfyriwr ar hyd ei oes), dyfarnwyd gradd MA (Cymru) iddo am draethawd ymchwil ar Y Darlun or Gweinidog yn Llenyddiaeth Cymru. Yn 1955 ordeiniwyd ef ir weinidogaeth yn Rehoboth, Llansawel, ac yntau, erbyn hynny, yn r priod. Yn Beti (George cyn priodi; un a fagwyd ym Moreia, Brynaman) cafodd Islwyn wraig a fun gymar delfrydol ac yn gefn cadarn iddo ym mhob agwedd oi waith. Yn ystod cyfnod Llansawel y ganwyd y meibion: Hywel, a ddaethain hanesydd, awdur y gyfrol safonol Transatlantic Brethren (1995) (syn olrhain hanes yr ohebiaeth a fu rhwng Bedyddwyr ar y ddwy ochr ir Iwerydd yn ystod y ddeunawfed ganrif), ac a fu, cyn ymddeol, yn aelod o adran weinyddol Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth; ac Iwan, a raddiodd yn uchel yn y Gyfraith, ac a benodwyd yn ddiweddar (er mawr lawenydd i bawb ohonom) yn Is-Ganghellor Coleg Prifysgol Bangor. Yn 1961 derbyniodd Islwyn alwad i eglwys Caersalem Newydd, Tre-boeth, Abertawe, ac o fewn dim enillodd barch ac ymddiriedaeth ei bobl, nid yn unig ar gyfrif ei fugeiliaeth sensitif or praidd, ond hefyd oherwydd trylwyredd ei baratoi ar gyfer ei bulpud, a adlewyrchai ei ddarllen eang ai fyfyrdod cyson. Ystyriai bregethu yn rhan greiddiol, anhepgor o waith gweinidog, ac nid oedd yn syndod, pan wahoddwyd ef i draddodi darlith yng nghyfres Darlithoedd Coffa Dewi Gravelle (hynny ar 24 Medi 1997 yng nghapel Calfaria, Clydach), iddo ddewis traethu ar Addoli ar Pregethwr. Gwir a ddywedwyd nad ysgrifennydd yn digwydd bod yn bregethwr oedd Islwyn Davies, ond pregethwr ai cafodd ei hun yn swydd ysgrifennydd.

 

GOLYGYDD

Ar ben ei ddyletswyddau gweinidogaethol ymgymerodd yn 1973 (hyd at 1976) golygyddiaeth Seren Cymru, yn olynydd ir Parchg. D. Eirwyn Morgan. Cefais innaur fraint o fod yn gyd-olygydd ag ef am ran or cyfnod hwn; cyfarfyddem n gilydd ben bore Llun i roi trefn ar y rhifyn dilynol or wythnosolyn, a pharatoir llith olygyddol yn ein tro. Afraid dweud ir cydweithio hwn fod yn fodd i ddyfnhaur cyfeillgarwch oedd eisoes yn bodoli rhyngom. Yn 1976 symudodd unwaith eto, nid i eglwys y tro hwn ond i bencadlys Undeb Bedyddwyr Cymru yn Nh Ilston, Abertawe. Penodwyd ef yn Gyd-Ysgrifennydd i ddechrau ac yna, y flwyddyn wedyn, yn Ysgrifennydd Cyffredinol. Prin y gellid meddwl am neb cymhwysach i olynur Parchg. M. J. Williams. Roedd ei ddysg, ei ddoniau gweinyddol, ei feddwl craff, trefnus, disgybledig, ynghyd i osgo bonheddig, enillgar yn arfogaeth effeithiol iddo wrth fwrw iddi i gyflawnir dasg ai hwynebai. Maen amlwg ddigon y syniai ei ragflaenydd yn uchel iawn amdano: Ym mis Medi 1977 derbyniodd yr awennau yn llwyr iw ddwylo ei hun. Tystiolaeth gyffredinol Bedyddwyr Cymru ... yw fod y dwylo hynny yn rhai cadarn a diogel. Y maen ysgrifennydd rhagorol, yn drefnydd doeth, yn chwaethus ei ymadrodd, boed ysgrifenedig neu lafar, ac yn r cwrtais a chyfeillgar. Gall pawb ohonom a gafodd y fraint o adnabod gwrthrych y deyrnged hon ei hategun llawen.

 

LLYWYDD

Maen ffaith ddiddorol mai oddi mewn i gylch Cymanfa Gorllewin Morgannwg y cyflawnodd Islwyn y cyfan oi weinidogaeth, ac yn 1986 gwelodd y gymanfa honno yn dda iw anrhydeddu i llywyddiaeth. Testun ei anerchiad or gadair oedd Yng Nghrist; ynddo pwysleisiodd fod pob Cristion unigol yn rhan o gymdeithas yr eglwys, sef corff Crist, ac nad oes y fath beth yn bod 8 Seren Cymru Gwener, Mehefin 19eg 2020 Cofio Islwyn Davies: parhad o dud. 7 Interniaeth Rebekah: parhad o dud. 1 Christion annibynnol. Ar ei ymddeoliad o D Ilston yn 1992, ar ben un mlynedd ar bymtheg o wasanaeth difefl, neilltuwyd ef yn llywydd Adran Gymraeg Undeb Bedyddwyr Cymru, ar tro hwn rhoed iddor cyfle i draddodi ei anerchiad o bulpud ei fam eglwys, hynny ar y testun, Cymdeithas ei Ddioddefiadau. Yr eglwys a hawliai ei sylw unwaith eto; hithau, meddai, wedi ei galw nid yn unig i gyffesu Crist; i ganlyn Crist; i gyd-weithio Christ ond hefyd i gydddioddef gydag Ef ynghanol dryswch a chymhlethdod y byd. Dyma Islwyn, felly, yn ymryddhau oi gyfrifoldebau gweinyddol, ond nid oedd ymddeol i fod, oherwydd ym Mawrth 1992 sefydlwyd ef yn weinidog yr eglwys lle magesid ef, gan barhau felly am y pedair blynedd ar ddeg dilynol. Gwnaeth lawer o waith arloesol ym Mhont-lliw, yn enwedig gydar ifanc; mewn gwirionedd, ar l i ddrws capel Peniel gau, daeth yn weinidog ir gymuned gyfan. Diwrnod iw gofio oedd hwnnw pan agorwyd festri newydd Carmel, yn cynnwys cegin fodern, bwrpasol.

 

GLYN NEST

Yn Ionawr 2018 penderfynodd Islwyn a Beti adael eu cartref ym Mhontarddulais ac ymgartrefu yng nghartref preswyl Glyn Nest. Erbyn hyn roedd cyflwr iechyd Islwyn yn gwanhau, ac yntau eisoes wedi ei gofrestru yn berson dall. Y maen glod arbennig ir gofal ar gefnogaeth a gawsant gan staff y cartref ir ddau ohonynt, mewn byr amser, deimlon berffaith ddedwydd ar eu haelwyd newydd. Yno, yn dawel ac yn dangnefeddus, yr hunodd Islwyn ar fore Sul, 24 Mai, ac yntaun 93 oed. Cydymdeimlwn yn ddwys Beti (bu hithau ac Islwyn yn dathlu eu priodas saffir glas 65 mlynedd yng Ngorffennaf 2018), Hywel ac Iwan au teuluoedd, ynghyd Trefor ac Eluned (brawd a chwaer Islwyn) yn eu galar. Wrth holi Islwyn sut y teimlai, yn ateb yn ddieithriad fyddai (ac roedd hyn yn gwbl nodweddiadol oi ysbryd hynaws a gwerthfawrogol), Testun diolch sy gen i. Testun diolch sydd gennym ninnau hefyd, a hwnnwn ddiolch didwyll i Dduw, am un a fun gyfaill ffyddlon, yn frawd llawn cydymdeimlad i gydweinidogion, yn Gristion gloyw, ac yn bennaf oll yn was da ir Arglwydd Iesu Grist.

Coffa da amdano.

 

Desmond Davies